Call 029 2087 xxxx

Gwastraff cyffredinol – Cyfleuster Adfer Ynni

Wyddech chi nad yw Cyngor Caerdydd yn anfon gwastraff i dirlenwi yng Nghaerdydd mwyach?

Nid oes gennym unrhyw safleoedd tirlenwi gweithredol yng Nghaerdydd, ac yn lle hynny, rydym yn defnyddio’r Cyfleuster Adfer Ynni (CAY) yn Sblot. Cyflwynodd y Cyngor y cyfleuster hwn ar y cyd â chwmni o’r enw Viridor, a phedwar cyngor lleol arall yn rhan o’r Bartneriaeth Prosiect Gwyrdd.

Pob blwyddyn mae’n trin hyd at 350,000 tunnell o wastraff nad yw’n ailgylchadwy ac yn ei losgi i greu digon o ynni ar gyfer oddeutu 50,000 o gartrefi. Caiff yr holl lid a’r mwg ei lanhau (neu ei sgrwbio) yn y simnai cyn ei ryddhau i’r atmosffer, fel nad oes unrhyw llygryddion niweidiol yn cael eu rhyddhau. Bydd unrhyw ludw gwaelodol sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio fel haen ar gyfer arwynebau ffordd, gan olygu bod y cyfleuster yn hollol gynaliadwy heb unrhyw wastraff.

Adfer Ynni o Wastraff

EFW Process

1. Caiff gwastraff ei ddidoli gan y cwsmer.
2. Gellir didoli gwastraff rhag blaen i dynnu unrhyw ddeunyddiau ailgylchu a adawyd.
3. Caiff gwastraff ei fwydo i’r llosgwr
4. Mae’n llosgi ar dros 850°C
5. Mae gwres yn mynd i foeler sy’n cynhyrchu stêm
6. Mae’r stêm yn gyrru tyrbin sy’n cynhyrchu trydan ar gyfer tai.
7. Gellir gyrru unrhyw wres sydd dros ben drwy bibau i wresogi adeiladau gerllaw.

8. Caiff nwyon niweidiol eu gwaredu.
9. Caiff gronynnau eu hidlo.
10. Caiff deunydd a gasglwyd gan y system lanhau awyr ei yrru i’w drin.
11. Caiff pob allyriant ei fonitro i gyrraedd safonau amgylcheddol caeth.
12. Caiff llwch ei gasglu ar waelod y llosgwr.
13. Mae magnedau yn tynnu unrhyw fetalau sy’n weddill i’w hailgylchu
14. Mae modd defnyddio’r llwch mewn projectau adeiladu megis ffyrdd newydd.

© Cardiff Council Commercial Waste Services - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd