Gall gwahanu eich gwastraff bwyd:
· leihau plâu a fermin,
· fod yn fwy cynaliadwy na defnyddio bagiau, a
· gall leihau arogleuon.
Bydd defnyddio casgliad gwastraff bwyd yn arbed arian i chi. Os ydych chi’n rhoi gwastraff bwyd yn eich bin gwastraff cyffredinol, gallech wynebu tâl amdano.
Cadi bwyd
Dylech ddefnyddio cadi bwyd os nad yw’ch busnes yn cynhyrchu llawer o wastraff bwyd. Gallwn ddarparu:
· cadi gwastraff bwyd 35 litr, a
· leinin bioddiraddadwy.
Byddwn yn casglu eich cadi bwyd o’r palmant.

Cadi 35L
Mesuriadau 510mm (U) x 320mm (D) x 400mm (Ll)
Biniau ag olwynion
Dylech ddefnyddio bin olwynion os yw’ch busnes yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff bwyd. Rhaid i chi roi gwastraff bwyd y tu mewn i leinin bwyd bioddiraddadwy. Mae’r rhain ar gael i’w prynu gan Cardiff Trade Waste. Gallwch eu harchebu nhw trwy’r porth cwsmeriaid.
Gallwn hefyd ddarparu cadi bwyd i chi i wneud gwaredu bwyd yn haws.
Sylwer: oherwydd cyfyngiadau pwysau, dim ond i 75% o’i gapasiti y gallwch lenwi’ch bin bwyd.
Gallwn hefyd gynnig cadis bwyd llai i’w gwneud yn haws gwaredu.

240L
Cynhwysydd â dwy olwyn
Mesuriadau: 1100mm (U) x 580mm (Ll) x 720mm (D)